Rhif y ddeiseb: P-06-1267

Teitl y ddeiseb: Creu system adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd sy’n perfformio’n wael

Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno system lle y gall etholwyr adalw eu Haelod o’r Senedd a galw is-etholiad yn dilyn hynny, yn debyg i’r system a gyflwynwyd gan Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015. Os yw Aelod o’r Senedd yn methu yn ei (d)dyletswydd, dylai fod system ar waith i’w (d)disodli.

 

 


1.        Y cefndir

Ar hyn o bryd dim ond trefn adalw o ran Aelodau Seneddol yn Senedd San Steffan sy’n bod. Nid oes gweithdrefn o’r fath yn bodoli yn y Senedd, yn Senedd yr Alban nac yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon. Yng ngweithdrefn Tŷ’r Cyffredin, ni all etholwyr gychwyn proses o adalw eu Haelod Seneddol. Mae'r pŵer hwn yn nwylo Llefarydd y Tŷ, ac mae'n dibynnu ar fodloni amodau penodol.

1.1.            Anghymhwyso o'r Senedd

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017, yn nodi’r rheolau ar gyfer pan fydd person wedi’i anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd. O dan Adran 16 ac atodlen 1A o’r Ddeddf, mae person wedi’i anghymhwyso rhag bod yn Aelod o dan yr amodau a ganlyn:

§    Mae o dan 18 mlwydd oed;

§    Nid yw'n bodloni meini prawf dinasyddiaeth;

§    Mae wedi'i ddatgan yn fethdalwr;

§    Mae wedi'i gael yn euog o arferion llwgr neu anghyfreithlon mewn etholiadau;

§    Mae wedi cael ei garcharu neu ei gadw yn dilyn euogfarnau (dedfryd o 12 mis o leiaf); neu

§    Mae wedi bod yn destun gorchmynion o dan Ran 2 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003.

Mae person hefyd wedi’i anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd os yw eisoes yn aelod presennol o ddeddfwrfeydd eraill y DU.

Os yw Aelod o'r Senedd wedi'i anghymhwyso, bydd y person hwnnw'n peidio â bod yn Aelod a daw ei sedd yn wag. Ar gyfer swyddi gwag etholaethol, cynhelir isetholiadau. Os etholwyd Aelod o'r Senedd sy'n gadael sedd rhestr ranbarthol o restr plaid, rhaid i'r Aelod sy'n llenwi'r sedd fod yn unigolyn sydd ar y rhestr honno.

 

1.2.          Deddf Adalw Aelodau Seneddol y DU 2015

Mae Deddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 yn Ddeddf y DU a ddaeth i rym ar 4 Mawrth 2016. Nid yw’r Ddeddf yn caniatáu i etholwyr gychwyn proses adalw. Yn lle hynny, rhaid i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin hysbysu’r swyddog canlyniadau lleol (a elwir yn y broses hon yn swyddog deisebau), os bodlonir un o dri amod. Yr amodau hyn yw:

§    Euogfarn yn y DU o unrhyw drosedd a’i ddedfrydu neu orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw. (Os yw'r ddedfryd yn fwy na 12 mis cânt eu diarddel yn awtomatig rhag bod yn AS o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981);

§    Gwahardd o’r Tŷ yn dilyn adroddiad a sancsiwn argymelledig gan y Pwyllgor Safonau (atal ar gyfer 10 diwrnod eistedd o leiaf); neu

§    Yn euog o drosedd o dan adran 10 o Ddeddf Safonau Seneddol 2009.

Bydd y swyddog deisebau wedyn yn trefnu bod y ddeiseb adalw ar agor am chwech wythnos. Mae'n ofynnol i o leiaf 10 y cant o bleidleiswyr cofrestredig cymwys yn yr etholaeth lofnodi'r ddeiseb er mwyn iddi fod yn llwyddiannus. Caniateir i bobl ymgyrchu o blaid neu yn erbyn y ddeiseb adalw, cyhyd â bod terfynau gwariant ar waith a bod yr ymgyrchu’n cael ei reoleiddio gan y Comisiwn Etholiadol. Os cyrhaeddir y trothwy 10 y cant, bydd y swyddog deisebau yn rhoi gwybod i’r Llefarydd, daw'r sedd yn wag, ac mae’n ofynnol i gynnal isetholiad. Caiff yr AS sydd wedi'i anghymhwyso sefyll yn yr isetholiad dilynol.

Ers iddi ddod i rym, mae deisebau adalw o dan y Ddeddf wedi cael eu cychwyn deirgwaith. Cyrhaeddodd dwy o’r deisebau hyn y trothwy gofynnol o 10 y cant, a chollodd y ddau Aelod Seneddol dan sylw eu sedd.

.

2.     Camau gan Senedd Cymru     

Yn 2014, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymchwiliad i’r modd yr oedd trefniadau anghymhwyso Aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio. Fodd bynnag, ni roddodd y Pwyllgor sylw i unrhyw ddulliau adalw Aelodau. Y Comisiynydd Safonau sy’n ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau unigol o’r Senedd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.